Diwygio tir yn Simbabwe
Gwedd
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/6/61/Rhodesialand.png/300px-Rhodesialand.png)
Dechreuodd diwygio tir yn Simbabwe yn dilyn Cytundeb Lancaster House, 1979, fel ymgais i ddosbarthu tir yn fwy cyfartal rhwng duon tlawd y wlad, a'r lleiafrif o wynion a reolodd y wlad o 1923 i 1979. Mae dosbarthu tir gan y llywodraeth yn bwnc gwleidyddol dadleuol iawn heddiw, o fewn y wlad ac yng nghysylltiadau rhyngwladol.